Carnifal Notting Hill

Y "Notting Hill Carnival", Llundain.

Cynhelir Carnifal Notting Hill yn Awst, dros gyfnod o dridiau: ar y Sadwrn, y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol a hynny yn ardal Notting Hill o Lundain ym Mwrdeisdref Kensington a Chelsea. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [1] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop. Roedd yma garnifal yn 1959, yn Neuadd y Dref, St Pancras er mwyn ceisio llesteirio drwg deimlad rhwng gwahanol hil; fe'i trefnwyd gan Claudia Jones a adnabyddir heddiw fel "Mam y Carnifal". Er i'r ŵyl hon fod yn llwyddiannus, fe'i cynhaliwyd y tu fewn i adeilad am nifer o flynyddoedd. Yn 1966 sefydlwyd carnifal arall yma i ddathlu syniadau'r hipi ac mewn parti stryd aeth y band dur Russell Henderson am dro drwy'r strydoedd. Cyfuniad o'r tri yma ydy'r carnifal presennol, mewn gwirionedd.

Man cychwyn traddodiadol yr ŵyl ydy Emslie Horniman's Pleasance sydd yn Ladbroke Grove.[2][3] Yn y blynyddoedd cynnar, gan nad oedd swyddfa ganolog, gweithredai'r Mangrove Restaurant yn Notting Hill, fel pencadlys, dan drefniant y gŵr o Drinidad, Frank Crichlow.[4]

  1. 1Xtra – Black History. "1965". BBC. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
  2. "Emslie Horniman's Pleasance". The Royal Borough of Kensington and Chelsea. Cyrchwyd 2010-12-03.
  3. "Emslie Horniman's Pleasance: Enchanted gardens". unlike.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-24. Cyrchwyd 2010-12-03.
  4. Abner Cohen (1993). Masquerade politics: explorations in the structure of urban cultural movements. University of California Press. t. 109. ISBN 978-0-520-07838-3. Cyrchwyd 19 Awst 2011.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search